calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 5 Mai 2024

Cwrs Confirmasiwn

18:30
Cwrs 6 wythnos i baratoi ar gyfer Gwasanaeth Conformasiwn gydag Archesgob Cymru ar 19eg o Fai yn Eglwys Beuno Sant, Clynnog Fawr.

Taith Gerdded Natur Tŷ Mawr

5 Mai Taith gerdded yn cael ei arwain gan Ioan Davies, Warden Parc Cenedlaethol Eryri mewn partneriaeth gyda Gŵyl Natur Cwm Penmachno.

Gwyl Calan Mai

11:00 hyd at 19:00, 6 Mai 2024 (Am Ddim ar y Sul. £8 (£4 i Blant tan 12) Nos Lun)
GWYL CALAN MAI – Neuadd yr Ysgol, Llanfihangel-ar-arth11.00 SUL 5/5 – Oedfa Flynyddol i’r Gymuned yng ngofal Coda Ni a’r Eglwys yng Nghymru – “Hoff yw’r …

Yfory 6 Mai 2024

Gŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

11:00–16:00 (Am ddim)
Mae criw o Aelodau Cynulliad Cymunedol Dyffryn Ogwen wedi bod wrthi’n galed yn trefnu Gŵyl Hinsawdd – un o’r syniadau yn y Cynllun Gweithredu Cymunedol.

Dydd Mawrth 7 Mai 2024

Ffenast Siop (Theatr Bara Caws)

(£14)
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Theatr Bara Caws yn cyflwyno Ffenast Siop

Hyd at 25 Mai 2024
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Cyfarfod Cynllunio Yr Ardd

18:30 (Am ddim)
Cyfarfod Cynllunio Dydd Mawrth, Mai 7fed, 6.30 – 8yh Beth hoffech chi ei weld yn digwydd yn Yr Ardd? Allwch chi ein helpu gyda’n cynlluniwr plannu?

Dydd Gwener 10 Mai 2024

Llygod Bach yr Amgueddfa

10:15–12:15 (Am ddim)
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.

Dydd Sadwrn 11 Mai 2024

Sesiwn Greu

Sesiwn greu gyda Stampwyr Eryri 2 le ar ôl2 spaces left Cyfle i ddysgu am amryw o dechnegau gwahanol e.e. stampio, blendio, die cutting, alcohol markers a mwy!

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

10:00–16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gŵyl Fwyd Caernarfon 2024

10:00–17:00 (Am ddim)
Mae gŵyl fwyd fwyaf Cymru yn ôl. Stondinau bwyd Cwrw lleol Cerddoriaeth fyw Ardal i’r Teulu Cynnyrch artisan Arddangosiadau coginio Bwyd Môr A MWY! Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Cerbydau Cymru

11:00–16:00 (Am ddim)
Bydd cerbydau o bob lliw a llun yn ymgasglu o gwmpas yr Amgueddfa i ddathlu eu hanes yng Nghymru. O feiciau modur, bysiau a thryciau i locomotif stêm anhygoel yr Amgueddfa.

Côr-tastig

19:30 (£10 i oedolion a plant am ddim)
Cystadleuaeth Gorawl ysgafn yn y Moody Cow, Llwyncelyn. Oedolion £10. Plant am ddim. Tocynnau ar gael o Theatr Felinfach. Elw tuag at Ganolfan Therapi Ocsigen Aberteifi.

Dydd Sul 12 Mai 2024

Ffair Hen Bethau a Gwneuthurwyr y Glannau

10:00–16:00 (Am ddim)
Amrywiaeth cyffrous o stondinau danteithion a chrefftau yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Gwasanaeth Cymorth Cristnogol a Chinio Bara a Chaws

10:30
Gwasanaeth arbennig ar ddechrau Wythnos Cymorth Cristnogol, a chinio Bara a Chaws i ddilyn – casgliad tuag at Gymorth Cristnogol

Dydd Llun 13 Mai 2024

Bore Coffi Cymorth Cristnogol

10:00–12:00 (Am ddim)
Cacennau Pethau newydd Planhigion Raffl Yr elw tuag at Gymorth Cristnogol.

Dydd Mawrth 14 Mai 2024

Dysgu Nyddu

10:00–12:00 (Am ddim)
Rhowch gynnig ar ddysgu nyddu yn yr Amgueddfa!   Mae lleoedd yn gyfyngedig a bydd angen i chi archebu tocyn. 

Bore Coffi Cymunedau Cynaliadwy

10:00–13:00
Cyfres o foreau coffi am ddim i gwrdd â phobl eich ardal leol, sgwrsio dros ddiod poeth ac ymuno mewn gweithgareddau!  Dewch yn llu!

Dydd Mercher 15 Mai 2024

Operation Julie

19:30 (£25/£23)
Mae’r sioe lwyddiannus a werthodd allan haf diwethaf yn ôl i ‘prog-rocio’r DU.

Noson Agored Patagonia

19:30–21:00 (Am ddim)
Noson i ddathlu cyfraniad Elvey a Eirionedd Mewn noson arbennig ar y 15fed o Fai yn Amgueddfa Ceredigion, bydd Cymdeithas Gefeillio Aberystwyth-Esquel yn dathlu cyfraniad arbennig Eirionedd …

Dydd Iau 16 Mai 2024

Ffenast Siop

19:30 (£15 | £14 | £13)
Cwmni Theatr Bara Caws  “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.”Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn sgil y …