calendr360

Digwyddiadau digidol ac ar draws y wlad

Heddiw 26 Ebrill 2024

Gwyl Ddrama Y Groeslon

07:00 (Oedolion £5.00 Plant £1.50)
Nos Iau a nos Wener 25 a 26 o Ebrill cynhelir Gŵyl Ddrama Y Groeslon am 7 o’r gloch. Y beiriniad eleni yw Marlyn Samuel a bydd pedwar cwmni drama yn cystadlu am Dlws Coffa Dr John Gwilym Jones.

Datgelu Plac Porffor i Dorothy Miles

13:00
Dadguddio Plac Porffor i’r bardd o ferch, Dorothy Miles.

Cyngerdd Elusen y Maer

19:30 (£15 | £10)
Noson Lawen i godi arian i Hafan y Waun – Elusen y Maer (Kerry Ferguson, Cyngor Tref Aberystwyth). Eich cefnogaeth os gwelwch yn dda ar gyfer y noson ffab yma!

Lleisiau Tros Fôr Iwerddon

19:30
Blwyddyn ers taith lwyddianus Côr Meibion Caernarfon i’r Iwerddon dyma gyfle i groesawu un o’r corau iddynt ganu gyda nhw yma i Gaenarfon.

Yfory 27 Ebrill 2024

Eisteddfod Y Groeslon

01:00 (Oedolion £4.00 Plant am ddim)
Beirniaid: Cerdd a Cherdd Dant: Einir Wyn Jones, Pwllheli Llefaru: Anni Llŷn, Garnfadryn Llên a Thlws yr Ifanc: Anni Llŷn, Garnfadryn. Arlunio: Non Llywelyn, Saron.

Taith Gerdded Llwybr Arfordirol Penbryn

10:00 (£5 / £3)
Dydd Sadwrn Ebrill 27ain 2024 10yb o faes parcio Llandysul i ddal bws mini i Benbryn. Bydd angen i chi fwcio sedd ar y bws mini. Mae croeso i gŵn ar y daith gerdded ond nid ar y bws mini.

Arddangosfa Budosai

10:00–15:00 (AM DDIM)
Arddangosfa Crefftau Ymladd BudosaiThe Budosai Martial Arts Demonstration Ebrill 27 April 2024 10:00am – 15:30pm  Canolfan Byw yn Iach, Caernarfon Croeso i Bawb / Everybody WelcomeMynediad Am …

I Gofio am y Plant a Laddwyd yn Gaza

13:00–17:00
 Os yw pobl yn dymuno, mae croeso iddynt brintio allan neges bersonol fel poster A4 – gan ddewis delwedd,cerdd, geiriau sy’n ysbrydoli heddwch, gobaith ayb – a dod a fe gyda nhw …

Cofnodi 150 mlynedd sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru

13:30–16:00
Ymunwch a ni yn ar ddydd Sadwrn, Ebrill 27 yn Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, i nodi a dathlu 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Bydd yr Athro R.

Diwrnod y Merched

14:00 (£20)
Mae’r Clwb Rygbi yn cynnal Diwrnod Merched ar gêm gartref olaf y Tymor yn erbyn Clwb Rygbi Tregŵyr ar 27 Ebrill.Bydd yn cynnwys Te Prynhawn a Prosecco am gost o £20 y pen gyda band byw …

Gig gyda Elidyr Glyn

19:30 (£10)
Bydd tocynnau yn werth o Llety Arall ddiwedd Mawrth!

Dydd Sul 28 Ebrill 2024

Cymanfa Ganu Unedig Gogledd Ceredigion

Cyfarfod y bore am 10 o’r gloch – arweinydd: Mrs Helen Medi Williams Cyfarfod yr hwyr am 5.30 o’r gloch – arweinydd: Mrs Delyth Hopkins Evans Croeso cynnes i bawb

Taith Gerdded Natur

09:30–12:30
Ymunwch efo ni am daith o amgylch Cwm Idwal gyda Swyddog Partneriaeth Cwm Idwal. Fe fyddwn yn cerdded o amgylch Llyn Idwal gan sylwi, dysgu a mwynhau’r natur o’n cwmpas.

Dydd Mawrth 30 Ebrill 2024

Pictiwrs a Chân:Viva Las Vegas (U)

14:00 (£4)
Pictiwrs a Chân Viva Las Vegas (U) Ymunwch â ni am brynhawn yn y pictiwrs gyda’r clasur Viva Las Vegas yn serennu Elvis Presley.

Cyfarfod Blynyddol

19:30
Croeso cynnes i bawb i gyfarfod Blynyddol Pwyllgor Neuadd Talgarreg

Dydd Iau 2 Mai 2024

Parti Priodas

19:30 (£14 | £12 | £10)
Parti Priodas Theatr Genedlaethol Cymru  Emynau, tensiynau, a dawnsio ar ben byrddau! Dyma’ch gwahoddiad i barti priodas Dafydd a Samantha…Ond pwy arall sy’ ar y rhestr westeion?

Dydd Gwener 3 Mai 2024

Gwyl o Fawl

18:00
Gwyl o fawl yn y Tabernacl , Pencader nos Wener Mai 3ydd am 6.00 o’r gloch a datganiadau ar yr organ gan Mr Martin Griffiths.  Dim tâl mynediad, gwneir casgliad tuag at ymchwil i gancr yr …

Dydd Sadwrn 4 Mai 2024

Bore Coffi Ymchwil Cancr

10:00
Stondinau Raffl Agorir gan Cyril Davies Trefnir gan Gangen Ymchwil Cancr DU Llanybydder / Llanbed.

Diwrnod Agored Dysgu Bro

10:00 (Am ddim)
Ymunwch â Dysgu Bro Ceredigion ar Fai 4ydd yn Llyfrgell Llandysul i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweld gwaith celf heb ei arddangos, mynychu sgyrsiau, a thaith o amgylch y …

Clwb Crefft i Blant

10:00–12:00 (£5)
Ymunwch â Clwb Crefft misol  Amgueddfa Wlân Cymru. Cyfle i fod yn greadigol gan ddysgu a chreu amryw o grefftau.Y mis hwn mae cyfle i chi roi cynnig ar wau. Cyfle i arbrofi gyda gwahanol dulliau.

Dewch i ganu ‘Africa’

10:00–15:00 (£10, talu ar y drws)
Canu i Godi Calon! Bydd croeso cynnes yn eich aros. Gweithdy hwyliog yn dysgu trefniant corawl o Africa, agored i bawb. Nid oes angen profiad o ganu mewn côr, dewch draw i fwynhau.

Dewch i Ganu!

11:00 (Am ddim)
Ymunwch â’r cerddor Delyth Jenkins i ddysgu Cymraeg trwy ganu. Dydd Sad 03 Chwefror Dydd Sad 02 Mawrth Dydd Sad 06 Ebrill Dydd Sad 04 Mai Gyda Menter Iaith Abertawe.

Eisteddfod Capel y Fadfa

13:30 (Oedolion £4 plant Dan 16 oed£1)
Eisteddfod Capel y Fadfa Talgarreg Cystadleuthau newydd eleni sef Dweud joc/jocs Perffomio mewn cymeriad (amodau ar steddfota.cymru) Testun y gadair: emyn (geiriau un unig) ar y testun cynhaeaf.

Eisteddfod Capel y fadfa Talgarreg 

13:30 (Oedolion £4 plant £1)
Dydd Sadwrn 4ydd o Fai 2024 Dalier sylw, mae cyfeiriad beirniad llên ac adrodd yn anghywir.

Y Dewis

19:30 (£14/£12)
Gêm lawn dewisiadau yw bywyd. Crëwyd a chyfarwyddwyd gan Gwyn Emberton. Profwch y gêm sinematig lle mai chi sy’n dewis sut y bydd y stori’n mynd, yng nghanol Bangor.

Dydd Llun 6 Mai 2024

Gŵyl Hinsawdd Dyffryn Ogwen

11:00–16:00 (Am ddim)
Mae criw o Aelodau Cynulliad Cymunedol Dyffryn Ogwen wedi bod wrthi’n galed yn trefnu Gŵyl Hinsawdd – un o’r syniadau yn y Cynllun Gweithredu Cymunedol.

Dydd Mawrth 7 Mai 2024

Ffenast Siop (Theatr Bara Caws)

(£14)
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Theatr Bara Caws yn cyflwyno Ffenast Siop

Hyd at 25 Mai 2024
Ffenast Siop gan Iola Ynyr a Carys Gwilym “Ma menopos ‘di rhoi sbectol o wirionedd yn sownd ar y nhrwyn i, jysd weithia ma hi’n stemio.” Sioe un ddynes am Delyth yn ffeindio ei ffordd mewn bywyd yn …

Dydd Gwener 10 Mai 2024

Llygod Bach yr Amgueddfa

10:15–12:15 (Am ddim)
Ymunwch â ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn ein grwp misol i blant o dan 5 oed.